Deprecated: Optional parameter $depth declared before required parameter $output is implicitly treated as a required parameter in /homepages/12/d839504236/htdocs/corwenmuseum/wp-content/themes/sight/functions.php on line 39

Notice: Function register_sidebar was called incorrectly. No id was set in the arguments array for the "Site description" sidebar. Defaulting to "sidebar-1". Manually set the id to "sidebar-1" to silence this notice and keep existing sidebar content. Please see Debugging in WordPress for more information. (This message was added in version 4.2.0.) in /homepages/12/d839504236/htdocs/corwenmuseum/wp-includes/functions.php on line 5905

Notice: Function register_sidebar was called incorrectly. No id was set in the arguments array for the "Sidebar" sidebar. Defaulting to "sidebar-2". Manually set the id to "sidebar-2" to silence this notice and keep existing sidebar content. Please see Debugging in WordPress for more information. (This message was added in version 4.2.0.) in /homepages/12/d839504236/htdocs/corwenmuseum/wp-includes/functions.php on line 5905

Warning: session_start(): Session cannot be started after headers have already been sent in /homepages/12/d839504236/htdocs/corwenmuseum/wp-content/themes/sight/header.php on line 8
Amgueddfa Corwen Museum | Amgueddfa Corwen Museum
/homepages/12/d839504236/htdocs/corwenmuseum/wp-content/themes/sight/loop.php on line 3
list clear">
Eisteddfod Powys Exhibition at Corwen Museum

Datganiad i'r Wasg 7 Mai 2023

Arddangosfa Eisteddfod Powys yn Amgueddfa Corwen

Mae Eisteddfod Powys yn dychwelyd i Edeyrnion a Phenllyn ym mis Hydref 2023 ac, i hyrwyddo hyn, ac i ddathlu’r berthynas wych sydd wedi bod rhwng Corwen ac Eisteddfod Powys, rydym wedi creu arddangosfa newydd yn adrodd y stori hon. Rydym yn ddiolchgar am arian more | mwy …

Our 2023 Season opens on Easter Saturday 8th April

Mae ein Tymor 2023 yn agor ar Ddydd Sadwrn y Pasg 8fed Ebrill

Mae’r Amgueddfa’n ail-agor ar ôl gwyliau’r gaeaf ar ddydd Sadwrn 8fed Ebrill (Dydd Sadwrn y Pasg) ac os ydych wedi bod o’r blaen fe sylwch ar rai newidiadau. Rydym wedi cadw’r arddangosfa boblogaidd ‘Llechi a Datblygiad Pentref Glyndyfrdwy’ am ail flwyddyn ac eleni mae gennym hefyd Sioe Bypedau Owain Glyndŵr more | mwy …

Bydd yr Amgueddfa yn cau am y gaeaf Dydd Sul 30ain Hydref

Bydd yr Amgueddfa yn cau am y gaeaf Dydd Sul 30ain Hydref er mwyn i ni allu sefydlu arddangosfeydd newydd ar gyfer y flwyddyn nesaf. Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu gydag ymchwil, datblygu arddangosfeydd, gwaith cynnal a chadw neu dasgau eraill yr Amgueddfa gadewch neges ar ein ffôn, 07548 983068 more | mwy …

Y Frenhines Elizabeth ll

Rydym yn cau Amgueddfa Corwen fel arwydd o barch i’w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II ar ddiwrnod ei hangladd – Dydd Llun 19eg Medi 2022.  Byddwn yn ail-agor am 12.00 canol dydd ar Ddydd Mawrth 20fed Medi 2022.

more | mwy …
The Museum will re-open on Saturday 16th April

Bydd yr Amgueddfa yn ail-agor ar Ddydd Sadwrn 16eg Ebrill (Dydd Sadwrn y Pasg) gydag Arddangosfa newydd wych ar Lechi a Tharddiad Pentref Glyndyfrdwy. Byddwn yn adrodd hanes y teuluoedd a enillodd eu bywoliaeth o lechi a sut y tyfodd y pentref o wasgariad o ffermydd a thyddynnod. Fel rhan o'r arddangosfa mae ein gwirfoddolwyr yn adeiladu atgynhyrchiad o fwynglawdd llechi gyda sain a golau i roi profiad trochi llawn. Oriau agor fydd:- Dydd Llun i Ddydd Gwener 12.00 – 15.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 11.00 – 16.00 Nid oes tâl mynediad ond croesewir rhoddion bob amser.

more | mwy …
Wonderful news for Corwen Museum.

Newyddion Arbennig i Amgueddfa Corwen. Rydym newydd glywed ein bod wedi llwyddo yn ein cais am grant y ‘New Stories New Audiences’ oddi wrth Gymdeithas Amgueddfeydd Annibynnol a Chronfa Dreftadaeth y Loteri. Llwyddodd 13 amgueddfa fach annibynnol arall ym Mhrydain i dderbyn grant debyg, ac Amgueddfa Corwen yw’r unig un yng Nghymru. Dyma sut mae gwefan y Gymdeithas yn disgrifio’r cynllun: Bydd y cynllun yn adrodd hanes cynnar pentref Glyndyfrdwy drwy gyfrwng amrediad o brofiadau a digwyddiadau diddorol a fydd yn adrodd hanesion o’r gorffennol a’r presennol, a denu cynulleidfa newydd i Amgueddfa Corwen a chymunedau lleol. Bydd y cynllun yn taflu goleuni ar rai agweddau llai adnabyddus o dreftadaeth Chwarel Moel Fferna , a sut y trawsnewidiodd y gweithwyr a’r teuluoedd y tirwedd, a chreu cymuned o gymeriadau diddorol, a gofyn beth allwn ni heddiw ddysgu o’r hanes hwn. Lleolir y cynllun yn amgueddfa Corwen a agorir ddydd Sadwrn y Pasg, 16 Ebrill 2022, ac hefyd yn yr awyr agored yng Nglyndyfrdwy. Yno, ceir taith clywedol y gellir gwrando arno ar ffonau poced i arwain pobl ar daith ar hyd y Dyffryn i fannau amrywiol yn yr hen weithfeydd llechi. Rydym yn falch ein bod yn cyd-weithio gyda changen Glyndyfrdwy o Sefydliad y Merched a Phwyllgor y Neuadd Bentref i ddwyn ynghyd gwahanol linynnau’r cynllun hwn. Ar hyn o bryd rydym yn ymchwilio i hanesion am y gweithfeydd llechi, y gweithwyr llechi, a chymuned Glyndyfrdwy. Pe bae gennych ddiddordeb mewn cynorthwyo fel gwirfoddolwr gyda’r cynllun hwn, neu mewn cynllunio ac adeiladu’r arddangosfeydd hoffem glywed oddi wrthych chi. Gallwch fynd i dudalen y Cysylltwyr a gadael neges.

more | mwy …

Mae’r Amgueddfa bellach wedi cau dros y gaeaf.

Mae’r Amgueddfa bellach wedi cau dros y gaeaf.  Yn ystod y cyfnod hwn byddwn yn paratoi ar gyfer ein harddangosfeydd newydd yn 2022.  Ein themâu newydd fydd hanes Glyndyfrdwy, Chwarel a Chloddfa Lechi, a’r gweithwyr llechi lleol.  Os oes gennych arteffactau, ffotograffau, neu ddogfennau sy’n ymwneud â’r rhain, neu pe more | mwy …

For the foreseeable future the Museum will be open every Saturday

Hyd y gellir rhagweld bydd yr Amgueddfa ar agor bob dydd Sadwrn

Hyd y gellir rhagweld bydd yr Amgueddfa ar agor bob dydd Sadwrn o 11.00yb hyd 4.00yp, a dymunwn ddiolch i “Groundwork UK” a grant “Give Back with Bells” am yr arian a dderbyniwyd gennym i brynu’r gasebo su’n cadw’n gwirfoddolwyr ac ymwelwyr yn ddiogel yn ystod y pandemig.

Er mwyn cydymffurfio more | mwy …

Our Outside Museum

Ein Amgueddfa Allanol

Dewch i weld ein harddangosfa newydd y tu allan ar wal Amgueddfa Corwen, gyda map a gwybodaeth am y lleoedd o ddiddordeb i’w gweld yn nhref hardd Corwen.

 

more | mwy …

Rydym yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi trwy symud Amgueddfa Corwen y tu allan.

 

This image has an empty alt attribute

Nid ydym wedi medru agor yr Amgueddfa ers bron i flwyddyn bellach, oherwydd pandemig Covid-19. Felly rydym wedi gweithio ar gasgliad o baneli i ddehongli hanes ardal Edeyrnion dros amser, ac mae’r paneli wedi eu gosod ar ochr wal Canolfan more | mwy …

Museum News February 2021

Newyddion yr Amgueddfa Chwefror 2021

Fel arfer yr adeg yma o’r flwyddyn rydym yn gweithio’n wyllt ar themâu arddangos newydd yn yr Amgueddfa er mwyn ail-agor ar ôl y gaeaf ar ddydd Gŵyl Dewi Sant. Yn anffodus, nid ydym mewn sefyllfa i ail-agor oherwydd cyfyngiadau Llywodraeth oherwydd pandemig y firws Corona, ac efallai y bydd more | mwy …

Fy Nhaid, John Roberts

 

 

This image has an empty alt attribute

Yn ddiweddar derbyniais ganiad ffôn gan Mrs Beryl Jones, yn ymholi am Amgueddfa Corwen. Mae Mrs Jones (yn awr yn ei nawdegau) yn wyres i John Roberts, perchennog Gwesty Owain Glyndŵr yng Nghorwen yn niwedd y bedwaredd ganrif a’r more | mwy …

<>