This image has an empty alt attribute

Nid ydym wedi medru agor yr Amgueddfa ers bron i flwyddyn bellach, oherwydd pandemig Covid-19. Felly rydym wedi gweithio ar gasgliad o baneli i ddehongli hanes ardal Edeyrnion dros amser, ac mae’r paneli wedi eu gosod ar ochr wal Canolfan Ni, sef y Ganolfan Gymunedol gyferbyn â’r Amgueddfa. Mae’r prosiect wedi’i gwblhau mewn pryd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. Mae’r arddangosfa newydd gyffrous yn bywiogi wal llwm ac yn rhoi darnau bach o hanes Edeyrnion i annog pobl i ddysgu mwy. Gobeithio y dewch chi i’w gweld.

Rydym yn awr yn gweithio ar baneli a fydd yn rhoi gwybodaeth am yr adeiladau a’r golygfeydd sydd i’w gweld o’r rhan hon o Gorwen. Bydd yr rhain yn cael eu gosodd ar wal allanol yr Amgueddfa. Gobeithiwn y bydd ymwelwyr yn cael eu hannog i archwilio’r dref ac i fwynhau harddwch ei lleoliad.

Mae naw o wirfoddolwyr yn gweithio ar ymchwil, ffotograffiaeth, golygu a chyfieithu ac rydym yn ddiolchgar iawn am yr amser maen nhw’n ei roi i’r datblygiad newydd cyffrous hwn ar gyfer Amgueddfa Corwen.