Fel arfer yr adeg yma o’r flwyddyn rydym yn gweithio’n wyllt ar themâu arddangos newydd yn yr Amgueddfa er mwyn ail-agor ar ôl y gaeaf ar ddydd Gŵyl Dewi Sant. Yn anffodus, nid ydym mewn sefyllfa i ail-agor oherwydd cyfyngiadau Llywodraeth oherwydd pandemig y firws Corona, ac efallai y bydd cryn amser eto cyn i ni deimlo fydd y sefyllfa yn ddiogel i’n gwirfoddolwyr a’n hymwelwyr.
Nid yw hyn wedi ein hatal rhag cyflawni ein nod o ddweud wrth y cyhoedd am straeon Edeyrnion, ac rydym wedi bod yn brysur iawn, gydag arddangosfeydd ffenestri siop cyn y Nadolig, yn dwyn stori’r Nadolig a’r Pantomeim i Gorwen, ac hefyd arddangosfa barhaus yn ffenester siop gwag y cigydd am hen hanes ‘Bridge Street’ wedi’i hadrodd mewn ffotograffau.
‘Rydym hefyd yn gweithio ar linell amser Edeyrnion i’w harddangos ar wal ochr Canolfan Ni. Mae wyth gwirfoddolwr wedi bod yn ymwneud ag ymchwil, ffotograffiaeth, ysgrifennu, cyfieithu a golygu i gynhyrchu arddangosfa a fydd yn cael ei gosod mewn pryd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. Felly, eleni mae ein Hamgueddfa’n symud y tu allan!
‘Rydym hefyd yn dal i ychwanegu at ein arteffactau ac roeddem yn falch iawn o gael sampler gwych a wnaed gan blentyn yn Ysgol Cynwyd yn y flwyddyn 1838.
Laura Watkins, sydd yn gyfrifol am ein tudalen Facebook, ac mae postiadau newydd bob dydd ar bob math o bynciau am ardal Edeyrnion. O’r dudalen hon, rydym yn casglu ffotograffau a straeon gan bobl lleol sy’n ail-adrodd straeon o’r gorffennol a bydd hwn yn adnodd rhyfeddol i’r Amgueddfa. Erbyn hyn mae dros fil o bobl yn dilyn y dudalen. Ydych chi’n un ohonyn nhw?
Mae ein Cadeirydd, Jim Ritchie, wedi dechrau cynhyrchu cylchlythyr misol, yn bennaf ar gyfer ein gwirfoddolwyr ond hefyd ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn yr Amgueddfa. Os hoffech gael copi trwy e-bost, defnyddiwch y dudalen gyswllt i wneud y cais. Hefyd, hoffem glywed gennych os oes diddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni. Efallai yr hoffech chi helpu gyda’n prosiect nesaf – cyfres o fyrddau ar wal ochr yr Amgueddfa sy’n adrodd stori’r rhan yma o Gorwen sydd i’w weld o’r polyn fflag ar Pen-y-Pigyn. Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi.