Mae’r Amgueddfa bellach wedi cau dros y gaeaf. Yn ystod y cyfnod hwn byddwn yn paratoi ar gyfer ein harddangosfeydd newydd yn 2022. Ein themâu newydd fydd hanes Glyndyfrdwy, Chwarel a Chloddfa Lechi, a’r gweithwyr llechi lleol. Os oes gennych arteffactau, ffotograffau, neu ddogfennau sy’n ymwneud â’r rhain, neu pe dymunech wirfoddoli er mwyn helpu gyda gwaith ymchwil neu gynllunio a gosod yr arddangosfeydd, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych. Gallwch gysylltu â ni ar ein gwefan – www.corwenmuseum.org.uk