Arddangosfeydd Newydd ar gyfer 2026
Diddordeb mewn hen ffotograffau? Yn 1978 daeth Jeff Wheeldon, ymwelydd cyson a Chorwen o Ganolbarth Lloegr, o hyd i focsys wedi cael eu gadael wrth ymyl biniau sbwriel. Wrth edrych i mewn i’r bocsys, gwelodd hen blatiau negatif. Ac yntau gyda diddordeb mewn tynnu lluniau, aeth a nhw adref a phrintio rhai o’r platiau oedd heb gael eu difetha. Lluniau o ardal Corwen oedd y ffotograffau yn dyddio yn ôl i ddechrau’r ganrif ddiwethaf. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn cynnwys golygfeydd o Landrillo, pentref 5 milltir o Gorwen, ar y ffordd i Bala. Yn 2025, daeth John, brawd Jeff sy’n byw yng Nghanada draw i ymweld â’r amgueddfa a chyflwyno copïau o’r ffotograffau, wedi eu printio a’i digideiddio. Cyn bo hir bydd modd i chi weld y lluniau drwy lŵp parhaus ar sgrin ar ail lawr yr amgueddfa.
Pleidlais i Wragedd ac Ymgyrchu dros Heddwch Yn dilyn ein harddangosfa y flwyddyn diwethaf ar y Ddeiseb Heddwch Gwragedd Cymru 1924, rydym wedi ehangu’r testun i gynnwys hawliau merched a’r ymgyrch heddwch. Mae modd i chi bellach ddysgu am hanes teulu o swffragetiaid lleol yn ogystal â gwragedd o’r ardal fu’n ymgyrchu dros ddiarfogi nuclear ym mlynyddoedd olaf yr ugeinfed ganrif.
Privacy & Cookies Policy
<>