Newyddion Arbennig i Amgueddfa Corwen. Rydym newydd glywed ein bod wedi llwyddo yn ein cais am grant y ‘New Stories New Audiences’ oddi wrth Gymdeithas Amgueddfeydd Annibynnol a Chronfa Dreftadaeth y Loteri. Llwyddodd 13 amgueddfa fach annibynnol arall ym Mhrydain i dderbyn grant debyg, ac Amgueddfa Corwen yw’r unig un yng Nghymru. Dyma sut mae gwefan y Gymdeithas yn disgrifio’r cynllun: Bydd y cynllun yn adrodd hanes cynnar pentref Glyndyfrdwy drwy gyfrwng amrediad o brofiadau a digwyddiadau diddorol a fydd yn adrodd hanesion o’r gorffennol a’r presennol, a denu cynulleidfa newydd i Amgueddfa Corwen a chymunedau lleol. Bydd y cynllun yn taflu goleuni ar rai agweddau llai adnabyddus o dreftadaeth Chwarel Moel Fferna , a sut y trawsnewidiodd y gweithwyr a’r teuluoedd y tirwedd, a chreu cymuned o gymeriadau diddorol, a gofyn beth allwn ni heddiw ddysgu o’r hanes hwn. Lleolir y cynllun yn amgueddfa Corwen a agorir ddydd Sadwrn y Pasg, 16 Ebrill 2022, ac hefyd yn yr awyr agored yng Nglyndyfrdwy. Yno, ceir taith clywedol y gellir gwrando arno ar ffonau poced i arwain pobl ar daith ar hyd y Dyffryn i fannau amrywiol yn yr hen weithfeydd llechi. Rydym yn falch ein bod yn cyd-weithio gyda changen Glyndyfrdwy o Sefydliad y Merched a Phwyllgor y Neuadd Bentref i ddwyn ynghyd gwahanol linynnau’r cynllun hwn. Ar hyn o bryd rydym yn ymchwilio i hanesion am y gweithfeydd llechi, y gweithwyr llechi, a chymuned Glyndyfrdwy. Pe bae gennych ddiddordeb mewn cynorthwyo fel gwirfoddolwr gyda’r cynllun hwn, neu mewn cynllunio ac adeiladu’r arddangosfeydd hoffem glywed oddi wrthych chi. Gallwch fynd i dudalen y Cysylltwyr a gadael neges.
by | gan
Lindsay Watkins on | ar
29/01/2022 •
Privacy & Cookies Policy
<>