Arddangosfa Eisteddfod Powys yn Amgueddfa Corwen
Mae Eisteddfod Powys yn dychwelyd i Edeyrnion a Phenllyn ym mis Hydref 2023 ac, i hyrwyddo hyn, ac i ddathlu’r berthynas wych sydd wedi bod rhwng Corwen ac Eisteddfod Powys, rydym wedi creu arddangosfa newydd yn adrodd y stori hon. Rydym yn ddiolchgar am arian ar gyfer yr arddangosfa drwy Gronfa LEADER Cadwyn Clwyd.
Bydd yr Arddangosfa yn rhedeg tan ddiwedd Hydref 2023 ac mae Eisteddfod Powys yn cael ei chynnal yn y Bala ar 27 a 28 Hydref.