Bydd yr Amgueddfa yn ail-agor ar Ddydd Sadwrn 16eg Ebrill (Dydd Sadwrn y Pasg) gydag Arddangosfa newydd wych ar Lechi a Tharddiad Pentref Glyndyfrdwy. Byddwn yn adrodd hanes y teuluoedd a enillodd eu bywoliaeth o lechi a sut y tyfodd y pentref o wasgariad o ffermydd a thyddynnod. Fel rhan o'r arddangosfa mae ein gwirfoddolwyr yn adeiladu atgynhyrchiad o fwynglawdd llechi gyda sain a golau i roi profiad trochi llawn. Oriau agor fydd:- Dydd Llun i Ddydd Gwener 12.00 – 15.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 11.00 – 16.00 Nid oes tâl mynediad ond croesewir rhoddion bob amser.
by | gan
Lindsay Watkins on | ar
28/03/2022 •
Privacy & Cookies Policy
<>