Dewch i weld ein harddangosfa newydd y tu allan ar wal Amgueddfa Corwen, gyda map a gwybodaeth am y lleoedd o ddiddordeb i’w gweld yn nhref hardd Corwen.

Bydd ein Amgueddfa ar agor unwaith eto cyn gynted ag y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi caniatâd. Yn y cyfamser, os ydych chi eisiau gwybod mwy, gofynnwch am gopi o’n Cylchlythyr misol ar dudalen Cysylltiadau’r wefan hon neu edrychwch ar dudalen Facebook Amgueddfa Corwen.