This image has an empty alt attribute

Yn ddiweddar derbyniais ganiad ffôn gan Mrs Beryl Jones, yn ymholi am Amgueddfa Corwen. Mae Mrs Jones (yn awr yn ei nawdegau) yn wyres i John Roberts, perchennog Gwesty Owain Glyndŵr yng Nghorwen yn niwedd y bedwaredd ganrif a’r bymtheg.  Mae ganddi ychydig o eitemau yn gystylltedig â’r gwesty yn y cyfnod hwnnw ac y mae hi yn dymuno eu rhoddi i’r Amgueddfa. Hefyd, er ei bod yn awr yn byw yn Llundain, mae ganddi gyfoeth o straeon i’w rhannu mewn cyswllt â Chorwen.

Mae hi wedi anfon amryw o ddogfennau perthnasol i’w thaid, gan gynnwys y llythyr hwn a ysgrifennodd i’r Arglwydd Newborough ynghylch darparu Cinio a Thê i saith gant (700) o fobl yn y Rhug yn y flwyddyn 1899. Cynigwyd ginio sylweddol am ddeuswllt (20c) yr un, a chwecheiniog (2.5c) am dê. Mae’r penllythyr yn fendigedig, gyda cheffylau a cherbydau yn myned heibio are y ffordd a thŵr yr Eglwys i’w weld yn specian drwy’r coed.

Mae’n amlwg fod y Gwesty yn fusnes llwyddiannus dros ben ac mi ‘rydw i’n edrych ymlaen yn fawr i ddarganfod mwy o straeon ynghlwm yng Ngwesty yr Owain Glyndŵr.