Ail-agorir Amgueddfa Corwen ddydd Sadwrn, 24 Chwefror, gyda Phenwythnos Agored Ysblennydd yn llawn arddangosfeydd a digwyddiadau sy’n seiliedig ar y Rhyfel Byd Cyntaf. Dewch i weld gwersyll y fyddin a phrofi’r bwyd a fwytaent. Dysgwch am yr arfau a ddefnyddient a’r gwisgoedd milwrol. Bydd yr Arddangosfa ar agor ar y dydd Sadwrn a’r Sul rhwng 10.00 y bore a 5.00 yr hwyr. Mae mynediad am ddim.

 

 

Yn yr Amgueddfa ceir gosodiad arbennig o babïau a grëwyd gan Glwb Ieuenctid Corwen. Bydd yn cynnwys 145 pabi, i goffáu’r 144 dyn ac 1 ddynes a restrir ar Gofebion Rhyfel Edeyrnion. Arddangosir Llyfrau Coffa hefyd yn ogystal â’r Arddangosfa newydd ar sut y cynorthwyodd Corwen a’r pentrefi gydag ymdrechion y rhyfel. Bydd ffos wedi’i ail-greu, lloches swyddogion, a gorsaf ysbyty maes. Gwerthfawrogwn yn fawr gyfraniad oddi wrth y Gronfa Loteri Genedlaethol i’n caniatáu ni i’w harddangos.

Mae’r Amgueddfa, hefyd, yn dathlu safle o Harddwch Naturiol Eithriadol Ardal Dyffryn Dyfrdwy, gyda gwaith hardd y cynllunydd gwydr lliw enwog, Alf Fisher, a arddangosir yn ffenestri ein capel prydferth. Byddant yn rhyfeddol.

Dyma gyfle na ddylech ei osgoi.