Er bod yr Amgueddfa ar gau, rydym yn parhau i weithio’n brysur. Rydym wrthi yn diweddaru data-bas ein harteffactau, ac yn cymryd lluniau o bob arteffact yn y ffordd a argymhellwyd gan Gruffydd Jones o Gasgliad y Werin Cymru, er mwyn inni allu llwytho delweddau a disgrifiadau ein harteffactau i Gasgliad y Werin er lles pobl ar draws y byd.
Un o’r pethau cyntaf a roddir yng Nghasgliad y Werin fydd y fedal hon a wnaed i goffáu ymweliad y Frenhines Victoria â Chorwen a’r Bala ym 1880.
Rydym hefyd yn ystyried sut y gallwn symud rhai o’r eitemau i’r dref, i ffenestri siopau ac i furiau allanol adeiladau. Bydd hwn yn ddatblygiad newydd cyffrous a fydd yn caniatáu’r Amgueddfa i gysylltu â phobl leol ac ymwelwyr er bod yr adeilad ei hun ar gau.
Mae tudalen Weplyfr yr Amgueddfa yn parhau i ychwanegu hanesion am ddynion a merched a fu’n gweithio, neu yn ymladd, yn ystod cyfnod y Rhyfel, 1939 i 1945. Un o’r hanesion hynny oedd yr un ynglŷn â’r teulu Hughes o Gorwen, yn arbennig Robert Hughes a ymladdodd yn y rhyfel Byd Cyntaf, ac a fu yn y Gwarchodlu Cartref yn ystod yr
Ail Ryfel Byd gan ei fod yn rhy hen i fynd yn filwr. Mae’r llun yn dangos Robert gyda’i deulu.
Parhawyd, drwy fis Mehefin, i ychwanegu gwybodaeth am ymchwilio i hanes teuluol. Yng Ngorffennaf dechreuwyd cynnwys erthyglau o hen bapurau newyddion, gan roi sylw arbennig i hysbysebion siopau lleol Corwen, a gofyn am atgofion pobl am siopwyr a lleoliad eu busnesau yn y dref. Mae hwn yn waith ymchwil pwysig ar gyfer arddangosfa yn y dyfodol.
Gofynnwn yn garedig ichi ddilyn y ddolen i’r Weplyfr am ragor o wybodaeth am hyn.