Dydd Iau, 13 Chwefror 2020 6.30yh. Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, yn cael ei ddilyn gan sgwrs gan Paul Davies ar Thomas Pennant a’i deithiau trwy Gymru. Croeso cynnes i bawb. Onid ydych yn aelod ni allwch siarad na phleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol, ond pam nad ymunwch chi? £6 yn unig yw’r tâl blynyddol, ac yna gallwch fynegi’ch barn ar ddyfodol yr Amgueddfa.

Dydd Iau, 27 Chwefror 2020 7.00yh. Noson ragarddangosfa ar gyfer yr holl wirfoddolwyr er mwyn iddynt weld y newidiadau yn yr Amgueddfa ar gyfer 2020. Bydd Lindsay hefyd yn siarad yn fyr ar ei thri mis yn Tanzanïa llynedd.

Dydd Sadwrn, 29 Chwefror, a Dydd Sul, 1 Mawrth 11.00yb.hyd 4.00yp.. Bydd yr Amgueddfa ar agor gyda Phenwythnos Agored arbennig. Byddwn yn trefnu cystadleuaeth baentio i ddisgyblion ysgol, a gwahoddwn y plant i ddod â’u paentiadau o dirluniau lleol i’r Amgueddfa yn ystod y penwythnos lle cânt eu harddangos.

Dydd Mawrth, 10 Mawrth 7.00yh. 
Sgwrs gan Pat Quigley o Gymdeithas Powys ar John Cowper Powys a’i gysylltiad â Chorwen.  Y lleoliad i’w gadarnhau.

Dydd Sadwrn, 21 Mawrth 2.00-4.30yp.  Prynhawn arbennig pan gyflwynir y gwobrau i enillwyr y gystadleuaeth baentio i ysgolion. Bydd Fiona Collins hefyd yn adrodd storïau yn yr amgueddfa yn ystod y prynhawn. Croesewir plant bach a mawr!

Dydd Mercher, 22 Ebrill 7.00yh.  Sgwrs ar y gwaith a wneir yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, a’r cynllun Tirlun Pictiwrésg.

Cynhelir yr holl ddigwyddiadau yn Amgueddfa Corwen, ar wahân i’r sgwrs ar Cowper Powys, 10 Mawrth, ac rydym wrthi yn trefnu’r lleoliad ar gyfer hwn. Croesewir pawb, a bydd mynediad am ddim. Tynnir raffl yn y sgyrsiau, a gwerthfawrogir rhoddion bob amser.

SYLWCH, OS GWELWCH YN DDA, MAI TRWY’R DRWS CEFN Y DEWCH MEWN I’R AMGUEDDFA PAN FYDD Y LLE AR GAU.