Byddwn yn nodi dechrau’r Ail Ryfel Byd ym 1939, 1 Medi eleni. Yma, yng ngogledd Cymru roedd yn fore braf, heulog, ond byddai’r dyfodol ymhell o fod yn heulog. Byddai’n rhaid i bobl yn aml guddio rhag y bomiau, a hynny mewn llochesau tanddaearol a adeiladwyd yn arbennig i’r pwrpas. Claddwyd y llochesau’n rhannol yn y ddaear, gyda phridd yn eu gorchuddio. Fe’u hadeiladwyd weithiau yng ngerddi cefn pobl, ac fe’u henwyd, ar ôl eu cynllunydd, yn Llochesau Anderson.
Fe’u gwnaed o chwe darn o haearn rhychog wedi’u bolltio at ei gilydd ar gyfer y to, gyda phlatiau haearn bob ochr, a mesurent 6’6” wrth 4’6”. Roeddynt yn effeithiol iawn yn achub bywyd a rhwystro niweidiau mawr yn ystod ymosodiadau o’r awyr, ond roeddynt yn oer iawn yn ystod y gaeaf. Fe’u cynlluniwyd ar gyfer chwe pherson, a byddent ar gael am ddim i bobl a enillai lai na £250 y flwyddyn. (Cyfartaledd enillion yr amser hwnnw oedd £200.) I’r gweddill, y gost oedd £7.
Dewch i weld y Lloches Anderson a ailadeiladwyd yn Amgueddfa Corwen, hen gapel a wnaed o frics coch, ar yr A5 yng Nghorwen. Yr oriau agor yw 11.00yb i 4.00yp ddyddiau Llun, Mercher, Gwener, Sadwrn, a Sul. Dewch i weld y lle bach, i wrando ar y newyddion radio a cherddoriaeth boblogaidd. Yna, aroswch am ychydig i weld y model reilffordd a’r trysorau eraill sydd gennym!