This image has an empty alt attribute

Gydag amser ar eu dwylo yn ystod y cyfnod clo hwn, mae pobl yn edrych mewn droriau a dod o hyd i hen luniau teuluol. Gwnaeth hyn iddynt feddwl am hanes eu teulu, a hynny, efallai, am y tro cyntaf. Penderfynon ni, felly, gyhoeddi cyfres o erthyglau ar ddechrau ymchwilio i’ch cart achau. Os oes gyda chi ddiddordeb yn y pwnc, edrychwch ar ein Gweplyfr i’ch cynorthwyo i ddechrau.

This image has an empty alt attribute

Bob dydd rydym wedi cofio rhywun o Edeyrnion a ymladdodd yn yr Ail Ryfel Byd. Cyflwynwyd Croes Gwasanaeth Nodedig i Micky Wynn, 7fed Barwn Newborough o’r Rhug, Corwen. Gallwch ddarllen ei stori ryfeddol, gan gynnwys sut y dihangodd o Colditz.

Un milwr a ymladdodd, ond na ddaeth adref oedd Thomas Owen Jones, o Gorwen. Pan yn 22 mlwydd oed, fe’i lladdwyd yn India, a’i gladdu yn y Fynwent Filwrol Ymerodrol. Noda’r arysgrif ar ei fedd: “God’s finger touched him and he slept”. 

 

This image has an empty alt attribute

Pwythwyd y darn prydferth hwn o wniadwaith, a arddangosir yn yr Amgueddfa, gan wraig leol, Mari Davies, ym 1989, i goffáu 70 mlynedd Sefydliad y Merched yng Nghorwen a sefydlwyd ym 1919. Newydd ddathlu can mlynedd o fodolaeth mae’r gangen llwyddiannus hon.

 

This image has an empty alt attribute

Yr arteffact diweddaraf inni dderbyn yw potel o Fferyllfa Ellis Evans, Corwen. Gwellir gweld y Fferyllfa yn y llun a dynnwyd adeg Eisteddfod yng Nghorwen.

 

This image has an empty alt attribute

 

Pe hoffech ragor o wybodaeth am unrhyw un o’r pynciau hyn, gallwch ddilyn y ddolen i dudalen ein Gweplyfr.