Mae Amgueddfa Corwen yn falch cyhoeddi y bydd Penwythnos Agored yn yr Amgueddfa ddydd Sadwrn, 29 Chwefror, a dydd Sul, 1 Mawrth, rhwng 11.00yb a 4.00yp. Caiff ymwelwyr gyfle i weld y ddwy arddangosfa gyffrous newydd: ‘Artistiaid ac Awduron â chysylltiad ag Edeyrnion’ a ‘Faciwîs yng Nghorwen yn ystod yr ail Ryfel Byd’.

Rhoir lle amlwg i’r awduron lleol, John Cowper Powys ac Elena Puw Morgan, a buom yn ddigon ffodus i dderbyn nifer o arteffactau gan Gymdeithas Cowper Powys, a benthyca arteffactau oddi wrth wyresau Elena Puw Morgan. Awdur oedd John Pennant a ysgrifennai am ei deithiau yng Nghymru, gan gynnwys yn Edeyrnion; a cheir darluniau o waith yr artistiaid o Gymru, John Ingleby a Moses Griffith. Ysgrifennodd Edward Pugh o Ruthun deithlyfr o’r enw ‘Cambria Depicta’ a gwneud y darluniau ei hun. Byddwn yn arddangos printiau o rai o’u dyfrluniau lleol, a hoffem ddiolch i Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Dyfrdwy am gefnogi’r arddangosfa drwy’r cynllun Tirluniau Pictiwrésg.

Mae arddangosfa Faciwîs yr Ail Ryfel Byd yn adrodd hanes y plant ysgol a ddaeth i fyw yn ardal Corwen o Ysgol Cathcart ym Mhenbedw, er mwyn osgoi’r bomio. Dymunwn i bobl sy’n cofio’r faciwîs, neu a oedd yn faciwîs eu hunain, ddweud wrthym am eu profiadau, er mwyn ehangu ar yr hyn sydd eisoes yn ychwanegiad cyffrous i’r Amgueddfa.

Ceir arddangosfa hefyd o bypedau a wnaed gan bobl a phlant lleol i ddathlu’r Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yng Nghorwen ym 1919, ac i ddweud hanes Owain Glyndŵr, Tywysog olaf Cymru. Mae’r pypedau hyn yn ychwanegiad newydd a chyffrous yn yr Amgueddfa, ac rydym wrth ein bodd o’u cael.

Rydym yn ymhyfrydu yn y Gystadleuaeth newydd o Luniau gan Blant. Yn ystod y Penwythnos Agored, daw disgyblion ysgolion lleol â’u gwaith sy’n dangos eu hoff dirlun lleol, ac fe’u dangosir yn yr Amgueddfa. Gwobrwyir brynhawn dydd Sadwrn, 21 Mawrth, pan dreulir y prynhawn i adrodd storïau i’r ifainc a’r hen.

Cewch ragor o wybodaeth am yr Amgueddfa, a sut i ddod o hyd inni, ar ein gwefan www.corwenmuseum.org.uk.