17 Gorffennaf 2018  

 

 

Aeth ein taith 17 Gorffennaf â ni i Yr Ysgwrn, Trawsfynydd, cartref y bardd Hedd Wyn.  Mae hwn yn le arbennig, ac fe’n cyffyrddwyd wrth edrych ar y ‘Gadair Ddu’, y Gadair a enillodd Hedd Wyn yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw ym 1917, ychydig o wythnosau yn unig wedi’i farwolaeth ym mrwydr Passchendaele.  Fe’n cyffyrddwyd, hefyd, gan y lluniau o’r dynion ifainc eraill o Drawsfynydd a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.  Rydym ni wedi gwneud yr un peth ar gyfer dynion ifainc Edeyrnion a goffeir ar ein Cofebion Rhyfel.  Byddai rhai o’r dynion hyn wedi adnabod Hedd Wyn, ac efallai wedi brwydro gydag ef, fel aelodau o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.

 

21 Mehefin 2018

 

Ymwelodd grŵp o’n gwirfoddolwyr â Gwaith Haearn Y Bers, Wrecsam ac Arddangosfa 100 Peth Gogledd Ddwyrain Cymru yn Amgueddfa Wrecsam ac Archifdy Wrecsam.  Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus iawn, a dychwelodd y gwirfoddolwyr gyda gwell dealltwriaeth o’r broses o wneud haearn, a’r elfennau naturiol yn yr ardal a wnaeth Y Bers mor llwyddiannus.  Rhoddodd yr Archifydd yn Amgueddfa Wrecsam lawer o wybodaeth werthfawr ynglŷn â sut y dylem warchod ein cofnodion a’r lluniau yn ein casgliad, a byddwn yn gweithredu ar hyn.  Mwynhaodd pawb yr Arddangosfa 100 Peth a gynhwysai Gadair Eisteddfod Corwen a Phennawd Rheilffordd Llangollen o’n casgliad ni.