Arwyddwyd Deiseb Heddwch Merched Cymru 1924, a gydlynwyd gan Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru, gan 390,296 o fenywod er mwyn apelio ar America i ymuno ac arwain Cynghrair y Cenhedloedd, i geisio sicrhau na fyddai rhyfel arall yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Anfonwyd y ddeiseb mewn gist i America gan pedair gwraig, gan gynnwys Annie Griffiths, a gofnododd ei phrofiadau mewn dyddiadur.
Yn 2025 cafodd arddangosfa arbennig ei lansio yn Amgueddfa Corwen i goffau’r ymgyrch hon a’r cefndir y tu ôl iddi, ynghyd a hanes rhai o’r gwragedd lleol a lofnododd y ddeiseb.
Mae dau o wirfoddolwyr yr amgueddfa, Mike Plaice a Dilwyn Jones wedi ail greu’r gist oedd yn cynnwys y bocys o’r llofnodion anfonwyd i’r Amerig a bellach mae’n rhan o’r arddangosfa Deiseb Heddwch yn yr amgueddfa.




