Mae’r amgueddfa wedi’i lleoli mewn hen gapel ar London Road, wrth ymyl yr A5, gyferbyn â Chorwen Manor (yr hen dloty) ac wrth ymyl siop fwyd Nisa.
Yn sgil dyfodiad y rheilffordd i Gorwen yn 1865, daeth llawer o weithwyr o du allan i Gymru i’w ganlyn. Roedd llawer ohonynt yn Anghydffurfwyr a buont yn addoli mewn adeiladau dros dro nes llwyddwyd i godi £800 i adeiladu’r capel hwn ym 1879. Fe’i hadeiladwyd gan ddefnyddio brics o Riwabon, a ddaeth yno ar y rheilffordd hefyd. (Galwyd y capel yn Gapel Coch ar lafar gwlad, oherwydd lliw’r brics). Gosodwyd y garreg sylfaen gan Mr Thomas Barnes YH, Cadeirydd Rheilffordd Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog. Roedd Barnes wedi bod yn Aelod Seneddol dros Bolton ac yn wneuthurwr cotwm a oedd yn byw yn Weston Rhyn ger y Waun.
Ar ôl cael ei ddefnyddio fel capel am 85 o flynyddoedd, achubwyd yr adeilad ar ôl iddo gau a chafodd ei drawsnewid ar gyfer defnydd cymunedol ym 1993, gyda chyllid gan y Swyddfa Gymreig. I ddechrau, roedd yr adeilad yn ‘tele-cottage’ a ddefnyddid ar gyfer rhoi cyfle i bobl ddefnyddio’r rhyngrwyd cyn i hynny ddod yn gyffredin. Cafodd ei ddefnyddio ar gyfer sawl weithgaredd arall wedyn cyn i Gymdeithas Treftadaeth a Diwylliant Edeyrnion ei gymryd drosodd fel amgueddfa yn 2015.




