Ddydd Gwener, 20 Hydref, aeth grŵp o wirfoddolwyr o Amgueddfa Corwen i Storiel Bangor i weld blaen gwaywffon a ddarganfuwyd ym Mhlas yn Ddôl, Corwen, yn y 1980au ac a roddwyd i Amgueddfa Bangor i’w gadw yn ddiogel.

 

Roedd yn ddiddorol iawn edrych ar wrthrych a ddefnyddiwyd i chwilio am fwyd 3,500 o flynyddoedd yn ôl yn y coedwigoedd o gwmpas Corwen, ac yr oeddem i gyd yn gyffrous iawn.

Rydym yn awyddus i weld y darn hwn o’n hanes yn cael ei ddychwelyd i Amgueddfa Corwen, ond bydd yn rhaid inni ddod yn amgueddfa ardystiedig yn gyntaf, a bydd hynny yn cymryd peth amser.  Yn y cyfamser, mae gennym luniau, a stori hyfryd am sut y darganfuwyd y blaen gwaywffon, cyn ei golli, a’i ddarganfod eto gan fachgen craff, chwilfrydig, deng mlwydd oed.