Cafodd gwirfoddolwyr Amgueddfa Corwen daith ardderchog, ddydd Iau, 19 Mai 2018, i Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yng Nghaernarfon.  Bu’n gwirfoddolwyr yn ymchwilio i’r dynion a goffeir ar Gofebau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn Edeyrnion, ac roedd nifer ohonynt yn Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.  Dysgwyd llawer am y gatrawd gan ein tywysydd, Keith Jones, a wnaeth y daith yn fwynhad pur.

Rydym yn rhannu gwybodaeth gydag Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig am yr ymchwil a wnaed gennym ni, a llwyddodd yr Amgueddfa i’n cynorthwyo ni yn y mannau ble roedd bylchau gennym.  Nid aiff yr holl waith hwn yn ofer gan y cedwir ein ffolderi yn archifdy’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Amgueddfa Wrecsam, i’r cyhoedd eu gweld yn y dyfodol.