Yn gynharach eleni trefnodd Amgueddfa Corwen Gystadleuaeth Beintio i Ysgolion Lleol yn Edeyrnion, a hynny gyda chymorth Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, drwy’r Cynllun Tirweddau Pictiwrésg. Cymerwyd rhan gan ddisgyblion Ysgol Caer Drewyn ac Ysgol Carrog, a chynhyrchwyd lluniau prydferth yn dangos eu hoff dirweddau lleol. Mae’r arddangosfa yn cydfynd yn dda gyda’r Arddangosfa a drefnwyd gan yr Amgueddfa eleni – Arlunwyr ac Awduron sydd â chysylltiad ag Edeyrnion. Cafodd y beirniaid, Julie a Nicholas Macnamara, Jude Wood, a Ben Davis, waith anodd yn penderfynu ar yr enillwyr, gan fod y safon mor uchel, ond roedd y penderfyniad yn unfrydol. Bwriadwyd cynnal Seremoni Wobrwyo ddydd Sadwrn, 21 Mawrth, ond, oherwydd Feirws Corona, bu’n rhaid dileu’r cyfarfod, felly trosglwyddwyd y gwobrau i Jayne Davies, y Pennaeth.
Yr enillwyr o Ysgol Caer Drewyn yw: 1af – Millie Mae, 2il – Loise B, a 3ydd – Molly.
Enillwyr Ysgol Carrog yw: 1af – Thomas Scott, 2il – Riley Dyke, 3ydd Lois Garratt-Smith.
Arddangosir y lluniau yn Amgueddfa Corwen pan ellir ail-agor, ond ceir cipolwg ymlaen llaw gyda’r ffotograffau. Diolch i’r holl blant a gymerodd ran, i’r beirniaid, ac i’r Cynllun Tirweddau Pictiwrésg.