Mae Nick Collins wrthi bob dydd Mercher yn adnewyddu ein model o reilffordd o Orsaf Berwyn i Lyndyfrdwy. Dewch i’w weld wrth ei waith.
A oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn yr Amgueddfa? Yn ogystal â stiwardio mae’r gwirfoddolwyr wrthi yn llunio arddangosfeydd, yn ymchwilio i bynciau arbenigol ar gyfer ein harddangosfeydd, craffu ar hen luniau a’u golygu, a chynnal a chadw ein cofrestr o arteffactau. Gallwch alw yn yr Amgueddfa a gadael eich manylion i ni gysylltu â chi, neu anfonwch neges ar Dudalen Gyswllt y wefan. Byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych!