Rydym wedi agor y siampaen i ddathlu derbyn grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri a fydd yn ariannu dwy arddangosfa yn 2014.

 

Cynhelir yr arddangosfa gyntaf i gyd-fynd â dyfodiad y trenau teithwyr cyntaf i Gorwen ers toriadau Beeching. Bydd arddangosfeydd yn adrodd hanes y gwaith i adfer y llinell o Langollen, yn ogystal ag arddangosfa am hanes y trên yn ardal Corwen.

 

Cynhelir yr ail arddangosfa i gyd-fynd â’r Ŵyl Gerdded ym mis Awst a bydd yn rhoi disgrifiad darluniadol o hanes cerdded yn Edeyrnion a Dyffryn Dyfrdwy.