Bydd yr Amgueddfa ar gau drwy’r flwyddyn hon oherwydd y Pandemig Covid-19, ond rydym yn parhau yn brysur:-

Rhoddir cofnod dyddiol ar ein Gwefan yn adrodd hanesion am Gorwen a phentrefi Edeyrnion, a gofynnwyn am sylwadau a gwybodaeth. Gofynnwn yn garedig ichi ymweld â’r dudalen, a’i hoffi, drwy ddilyn y ddolen.

 

This image has an empty alt attribute

Llyfr Cyfansoddiadau Eisteddfod Corwen 1789

Cynnwys y gyfrol hon yw’r cyfansoddiadau a gyflwynwyd i’r Eisteddfod gyhoeddus gyntaf i’w chynnal yng Ngwesty’r “New Inn” Corwen (bellach Gwesty Owain Glyndŵr) ym 1789.

This image has an empty alt attribute

Mwg coffadwriaethol yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yng Nghorwen, 1919

Coffáu’r Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yng Nghorwen, 4 i 8 Awst 1919 a wna’r mwg hwn. Fe’i galwyd yn Eisteddfod y Fuddugoliaeth gan mai dyma’r Eisteddfod gyntaf i’w chynnal wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

This image has an empty alt attribute

Bathodyn Ysgrifennydd yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yng Nghorwen ym 1919

Gwisgwyd y bathodyn hwn gan Ysgrifennydd Pwyllgor Trefnu Eisteddfod Genedlaethol y Fuddugoliaeth a gynhaliwyd yng Nghorwen ym 1919.

 

This image has an empty alt attribute

Hambwrdd Pren Argaenwaith yr arysgrifwyd “Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1919, Corwen” arno.

Hambwrdd pren argaenwaith sy’n coffáu’r Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yng Nghorwen ym 1919

 

This image has an empty alt attribute

Plac pren yr arysgrifwyd “Yma y cynhaliwyd Eisteddfod Gyntaf Urdd Gobaith Cymru – 1929” arno.

Comisiynwyd y plac pren hwn ym 1979 i ddathlu hanner can mlynedd Eisteddfod gyntaf yr Urdd a

gynhaliwyd ym Mhafiliwn Corwen ym 1929