Ganwyd Barbara Robinson yn Birmingham 26 Mawrth 1936. Pan oedd yn dair blwydd oed, symudodd Barbara gyda’i rhieni, Thomas ac Edith Robinson (gynt Carter), yn gyntaf i Fryn Bach ac yna i Blas Y Glyn, Glyndyfrdwy. Roedd Barbara wrth ei bodd yn chwarae yn yr awyr agored yn arbennig ‘chwarae tŷ’ ar Fryn Garth gyda phlant y drws nesaf.

Mynychodd yr ysgol yn Y Bala cyn dod yn bostfeistres yng Nglyndyfrdwy. Yno gellid ei chlywed yn canu o gwmpas y pentref wrth fynd â phost o dŷ i dŷ.

Llenwai cerddoriaeth eu cartref, gyda Barbara’n canu’r piano a dysgu plant lleol. Roedd Mrs Robinson yn athrawes dawnsio a chanu, a dysgai nid yn unig blant lleol ond eraill mor bell â Llangollen a Chorwen. Perfformiai’r plant mewn pantomeim yn flynyddol. Roedd gan y teulu bolyn fflag ar lawnt Plas y Glyn, a defnyddiai Mrs Robinson hwn i ddysgu’r ddawns Fai a dawns Morris.

Roedd taid a nain Barbara, Thomas ac Ann Carter (gynt Gough), hefyd, yn byw yn y pentref, ac roedd ganddi atgofion melys ohonynt hwy a’i hewythr Tom. Yn dilyn marwolaeth ei thaid a’i nain ym 1941, symudodd Thomas Carter i fyw gyda’r teulu.

Ym 1956 enillodd Barbara wobr glodfawr Kathleen Ferrier – y person cyntaf i wneud hynny. Wrth wneud hyn, enillodd ar Janet Baker a ddaeth yn ail – mae Janet Baker yn un o’r ‘mezzo-sopranos’ gorau yn ystod y deng mlynedd a thrigain diwethaf.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Llundain o flaen cynulleidfa o 3,500 a gynhwysai Duges Caerloyw. Enillodd Barbara wrth ganu “Che Faro” o’r opera “Orpheus” gan Gluck. Dywedodd Syr Arthur Bliss, Meistr Cerddoriaeth y Frenhines a gadeiriai’r panel beirniaid, fod gan Miss Robinson lais contralto gwych a allai ei gwneud hi’n gantores beryglus. Ei gwobr oedd hyfforddiant cerddorol gwerth £1,000, naill ai yn Lloegr neu dramor. Penderfynodd Barbara fynd i’r Almaen lle cafodd wersi canu gan gerddor o’r Almaen. Dyma’r tro cyntaf iddi fynd dramor.

Ddiwrnod y gystadleuaeth, aeth taid Barbara, a oedd heb deledu, i wylio’r rhaglen yn y tŷ drws nesaf.

Sefydlwyd Cronfa Ysgoloriaeth Goffa Kathleen Ferrier ym 1953 er cof am Kathleen Ferrier (cantores broffesiynol) a fu farw o gancr yn 41 blwydd oed. Sefydlwyd y Gronfa Goffa gan nifer o arweinwyr dylanwadol gan gynnwys Syr John Barbirolli, Bruno Walter, a Syr Malcolm Sargent.

Pan dderbyniwyd Barbara i Goleg Cerdd Manceinion, cyfrannodd pawb yn y pentref i brynu cês dillad lledr iddi. Cyfarfu Barbara â’i darpar ŵr, Leonard Davies, ym Manceinion, a phriodwyd y ddau yng Nglyndyfrdwy ym 1957.

Yn dilyn geni’i merch gyntaf cefnodd Barbara ar ei gyrfa fel cantores. Er hynny, suwyd ei dwy ferch i gysgu gydag operâu ac nid hwiangerddi, a hynny naill ai wrth i Barbara ymarfer, neu ar hen 78 a oedd, yn anffodus, wedi’i grafu oherwydd gorchwarae!

Parhaodd Barbara i ganu, a dychwelai i’r ardal yn aml i berfformio. Yn y 1950au perfformiodd gydag Ysgol Ramadeg y Merched Y Bala mewn cynhyrchiad o “Y Greadigaeth”. Ym Mai 1987 perfformiodd yn Eglwys San Thomas, Glyndyfrdwy, gyda’r ‘mezzo-soprano’ a’r arweinydd lleol Ann Atkinson, Alun Jones, a Robert Hoare.

Ar hyn o bryd mae Barbara yn byw mewn Cartref Gofal yn Henley on Thames, ond mae bob amser wedi sôn yn annwyl am ei hamser yng Nglyndyfrdwy. Mae ei merch sydd wedi bod mewn cysylltiad â’r gymuned leol wedi’i chyffwrdd gan yr hanesion a’r atgofion am ei mam, a bydd ganddi lawer o

bethau i siarad â hi amdanynt pan fydd yn gallu ymweld â hi nesaf. Parhâ’r traddodiad cerddorol er anrhydedd i Nannie Babs gyda’i hwyres, Rebecca, yn agor ei theatr gerddorol ac ysgol ddawnsio.