Mae’n hamgueddfa ar agor yn Capel Coch ( drws nesaf i’r Siop Bwyd).

Bydd ar agor bob dydd o Dydd Sadwrn, Mawrth 21ain 2015 hyd Ddydd Sul,  Hydref 4ydd 2015 ac yna ar benwythnosau’n unig yn ystod mis Hydref 2015. Amserau agor fydd 11.00yb hyd 3.45 yp ac mae’r mynediad am ddim (er bydd croeso i unrhyw gyfraniad fydd o gymorth i gadw’r amgueddfa i fynd y flwyddyn nesaf.)

Os hoffech ein cynorthwyo gyda’r amgueddfa ( rydym i gyd yn wirfoddolwyr) siaradwch ag un o’r stiwardiaid yn yr adeilad. Bydd croeso mawr i chi.

Rydym yn ddiolchgar iawn i Gronfa Treftadaeth y Loteri sydd wedi’n cynorthwyo i ariannu’r arddangosfeydd a diolch i’r gwirfoddolwyr oll sydd wedi gweithio i sefydlu’r amgueddfa ac sy’n parhau i weithio fel stiwardiaid.