Tra bod yr Amgueddfa ar gau, rydym yn rhannu eitemau a storïau o’n casgliadau gyda ffrindiau ar ein Gweplyfr – 800 ohonynt – yn ogystal â chynnwys rhywfaint o’n gwaith ymchwil. Rydym, hefyd, yn dechrau lawrlwytho lluniau digidol i Gasgliad y Bobl Cymru. Daw’r gwaith hwn yn adnodd pwysig ar gyfer hanes a threftadaeth ardal Edeyrnion, ond gwaith sy’n cael ei ddatblygu yw hwn. Pe hoffech gynorthwyo gyda’r gwaith, gofynnwn yn garedig ichi gysylltu drwy’r dudalen berthnasol.

Dyma’r pynciau a grybwyllwyd ar ein Gweplyfr yn ystod yr ychydig wythnnosau diwethaf:-

 

This image has an empty alt attribute

Y ‘Mimosa’ a phobl leol a deithiodd i’r Wladfa Gymreig newydd yn Nyffryn Chubut ym Mhatagonia.

 

This image has an empty alt attribute

Carnifalau lleol dros y blynyddoedd oddi ar 1939

 

This image has an empty alt attribute

Lluniau o hen sinemau Corwen.

This image has an empty alt attribute

Hanes Gorsaf Reilffordd Gwyddelwern.

 

This image has an empty alt attribute

Ymweliad y Frenhines Victoria â Gogledd Cymru.

 

This image has an empty alt attribute

Bob dydd yn ystod y cyfnod rhwng 75 mlynedd ar ôl Diwrnod y Fuddugoliaeth yn Ewrop hyd 75 mlynedd ar ôl Diwrnod y Fuddugoliaeth yn Siapan, byddwn yn coffáu un person a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd, ac a restrwyd ar Gofebion Rhyfel Edeyrnion.

 

Pe hoffech ragor o wybodaeth am unrhyw un o’r pynciau hyn, gallwch ddilyn y ddolen i dudalen ein Gweplyfr.