Dangoswn gadeiriau o Eisteddfodau Cadeiriol Corwen 1902 a 1926, ac o Eisteddfod Powys 1936 a gynhaliwyd yng Nghorwen. Mewn cyferbyniad, mae gennym, hefyd, o’r Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn Y Bala yn 2009, gadair nad enillwyd gan na theimlwyd bod safon y farddoniaeth yn y gystadleuaeth yn ddigon uchel. Gwnaed Cadair 2009 yn lleol, mewn gweithdy ym Metws Gwerfyl Goch, ac mewn dull gwahanol iawn i gadeiriau’r 1900au cynnar.