Cawsom ar ddeall gan Gyngor Sir Ddinbych fod ein cyfnod rhent am ddim wedi’i ymestyn i ddiwedd mis Mehefin, sydd yn rhyddhad mawr inni. Yn ogystal, derbyniwyd rhodd o £560 oddi wrth yr elusen ‘Gwneud Gwahaniaeth yn Lleol’, elusen a sefydlwyd gan ‘Nisa Retail Ltd’ er mwyn cefnogi cymunedau lleol. Mae’n sefyllfa ariannol ni, felly, yn dda i’n helpu i oroesi’r adeg hwn pan y’n gorfodir i fod ar gau, ac i fod yn barod i groesawu’r holl ymwelwyr sydd yn awyddus i adael eu cartref a gwneud rhywbeth! Gobeithiwn na fydd yn rhy hir cyn inni allu ail-agor yn ddiogel.